Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Hydref 2023
Amser:
09.30 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13526
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Adam Price AS |
Tystion: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Ken Skates AS, Comisiynydd Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau, Comisiwn y Senedd |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Daeth ymddiheuriadau i law oddi wrth Rhianon Passmore AS
1.3 Gwnaed datganiad llafar gan Adam Price AS ynghylch ei swydd fel Comisiynydd y Senedd ac oherwydd hyn, ni fyddai’n cymryd rhan mewn trafodion yn ystod y cyfarfod a oedd yn ymwneud â materion y Comisiwn
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, Comisiynydd y Senedd sy’n gyfrifol am y Gyllideb a Chyllid, Cyfarwyddwr Adnoddau’r Senedd, a Phrif Swyddog Cyllid y Senedd fel rhan o’i waith craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Senedd 2022 -23.
4.1 Derbyniwyd y cynnig
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor ganllawiau a ddarparwyd gan dîm Cyfreithiol y Senedd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod adroddiadau Archwilio Cymru.